Mae Tŷ Castell yn cynnig profiad bwyta, yfed ac aros arbennig yng nghanol tref Caernarfon mewn adeilad hynafol o fewn i furiau’r Dref Gaerog.
Dafliad carreg o Gastell Caernarfon ac o fewn cyrraedd i holl siopau ac atyniadau’r dref, mae Tŷ Castell yn le perffaith i ymlacio a mwynhau mewn awyrgylch ysblennydd a Chymreig.
Rydym yn arbenigo yn y cynnyrch gorau o Wynedd, Cymru a’r byd ac yn cynnig brecwast, cinio, te pnawn moethus a phrydau nos ar sail Tapas a seigiau ysbrydoledig eraill wedi eu paratoi gan dim profiadol ein cegin.
Mae ein 4 llofft en-suite wedi eu dodrefnu i safon uchel a chwaethus gan ddarparu naws Gymreig ac unigryw i westeion.
Cofiwch gysylltu’n uniongyrchol efo ni am y prisiau a’r cynigion gorau ac edrychwn ymlaen at roi croeso a phrofiad unigryw, arbennig a chofiadwy o Gaernarfon i chi.