Rydym yn cynnig 4 llofft en-suite moethus yng nghanol Tref Gaerog Caernarfon. Mae pob llofft wedi ei ddodrefnu’n chwaethus i’r safon uchaf, gyda wi-fi rhad ac am ddim, teledu, cyfleusterau paned ac ystafell ymolchi.
Rydym wedi cael ysbrydoliaeth o chwedlau hanesyddol y Mabinogi wrth enwi ein llofftydd ac wedi canolbwyntio ar bedwaredd cainc y Mabinogi – Math fab Mathonwy; chwedl sydd efo’i gwreiddiau’n ddwfn yn Nyffryn Nantlle a Bae Caernarfon.
Archebwch le yn uniongyrchol efo ni am y prisiau gorau.
Amser cyrraedd y gwesty: 5:00yh
Amser gadael y gwesty: 11:00yb
Gall amser cyrraedd cynt fod yn bosib trwy drefniant o flaen llaw