Blodeuwedd
Cysgu 2 | O £80
Hon yw llofft fwyaf Tŷ Castell gyda nenfwd wedi ei restru a drych gwreiddiol enfawr uwchben y lle tân traddodiadol. Gyda thapestri Cymreig rhosliw o Felin Wlân Trefriw, mae awyrgylch bleserus a golau braf i’r ystafell llawr cyntaf sy’n dwyn enw’r ferch a grëwyd yn arbennig o flodau – Blodeuwedd. Mae ffenestr fwa’r llofft yn cynnig golygfeydd ar yr hen Stryd Fawr i’r Porth Mawr ac i lawr i Borth yr Aur a’r Fenai.
Gallwn ddarparu’r llofft gydag un gwely brenhinol mawr neu dau wely sengl (£10 ychwanegol) a chrëwyd y bwrdd gwely unigryw o silffoedd derw a ddaeth o hen storfa’r siop fwyd yn seler Tŷ Castell.
Darperir wi-fi, teledu ac offer paned yn yr ystafell yn ogystal a wardrob a chadeiriau i ymlacio.
Mae ystafell ymolchi fawr o fewn y lofft sy’n cynnwys baddon a chawod, tyweli moethus a chynhyrchion ymolchi.





