Gwydion
Cysgu 2 | O £80
Wedi’ ysbrydoli gan y dewin enwog, Gwydion, mae’r llofft yma ar yr ail lawr yn cynnwys gwely dwbl gyda thapestri Cymreig o Felin Wlân Trefriw mewn gwyrdd ac mae awyrgylch braf ac hamddenol yma. Mae ffenestr fwa’r llofft yn cynnig golygfeydd ar yr hen Stryd Fawr i’r Porth Mawr ac i lawr i Borth yr Aur a’r Fenai.
Darperir wi-fi, teledu ac offer paned yn yr ystafell yn ogystal a wardrob a chadeiriau i ymlacio.
Mae ystafell ymolchi’r lofft yn cynnwys cawod, tyweli moethus a chynhyrchion ymolchi.



