Math
Cysgu 2 | O £80
Llofft llawr cyntaf gyda gwely brenhinol a lle tân traddodiadol yn dwyn ysbrydoliaeth o un o Frenhinoedd Gwynedd – Math fab Mathonwy. Gyda thapestri Cymreig coch a glas o Felin wlân Trefriw, Dyffryn Conwy, mae hon yn lofft olau gydag awyrgylch bleserus. Gellir gweld rhan o nodwedd arbennig Tŷ Castell ar un o furiau’r ystafell hon – sef dull hanesyddol o adeiladu waliau gyda rhaffau a wnaed o wellt. Mae ffenestr fwa’r llofft yn cynnig golygfeydd ar yr hen Stryd Fawr i’r Porth Mawr ac i lawr i Borth yr Aur a’r Fenai.
Crewyd y bwrdd gwely allan o hen silffoedd o’r seler yn Tŷ Castell.
Darperir wi-fi, teledu ac offer paned yn yr ystafell yn ogystal a wardrob a chadeiriau i ymlacio.
Mae ystafell ymolchi’r lofft yn cynnwys cawod, tyweli moethus a chynhyrchion ymolchi.